Datganiad hygyrchedd ar gyfer cps.gov.uk
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i brif wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron (www.cps.gov.uk). Nid yw’n berthnasol i’r is-barthau sy’n rheoli ein ffurflen gyswllt (contact.cps.gov.uk) neu is-barth ein Paneli Eiriolwyr (cps.outsystemsenterprise.com). Fodd bynnag, mae unrhyw faterion hygyrchedd sy’n cael eu nodi gan ddefnyddwyr allanol neu archwiliadau yn cael eu trosglwyddo i reolwyr yr is-barthau hyn i gael sylw.
Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio sgrin darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, mae cyfran fawr o’n testun yn ymwneud â chanllawiau cyfreithiol a diffiniadau y bwriedir eu defnyddio’n bennaf gan gynulleidfa o gyfreithwyr cymwysedig, ac mae’n rhaid i ni eu cyhoeddi ar ffurf sy’n gyfreithiol gywir. Rydym yn cydnabod efallai na fydd rhywfaint o’r testun hwn yn syml i bawb ei ddeall. Lle mae’r testun hwn yn cyfeirio’n benodol at (ee) bobl ag anableddau dysgu, rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi fersiynau Hawdd eu Darllen o’r testun.
AbilityNet â chyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
- nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at:
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy ymweld â ni’n bersonol
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar y clyw, neu sydd â nam ar y lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Ar hyn o bryd mae ardaloedd a phencadlys Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnal swyddogaethau busnes craidd, gan wneud popeth o fewn ein gallu i leihau cyswllt wyneb yn wyneb.
Cyfathrebwch â ni drwy e-bost, dros y ffôn a thrwy gyfryngau digidol diogel lle bynnag y bo modd. Bydd y Post Brenhinol a phost arall a ddanfonir i’n swyddfeydd yn cael eu harchwilio o bryd i’w gilydd, ond ni ellir gwarantu amseroedd ymateb arferol o ran y post. Rhaid gwneud pob danfoniad â llaw drwy apwyntiad yn unig.
Rhagor o wybodaeth sut i gysylltu â ni). Nid yw’n berthnasol i’r is-barthau sy’n rheoli ein ffurflen gyswllt (
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad oes modd cael gafael arno
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word ar gael fel dewis arall yn lle ffurflenni HTML a thudalennau gwefan i gefnogi pobl y byddai’n well ganddynt y fformatau hyn. Mae gennym rai PDF hŷn sy’n cynnwys gwybodaeth am sut gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. O fis Medi 2020 ymlaen, rydym wedi sicrhau bod y rhain mor hygyrch â phosibl neu rydym yn bwriadu eu disodli â thudalennau HTML hygyrch.
Y rheoliadau hygyrchedd ddim yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio ffeiliau CSV na thaenlenni y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw (os byddwn yn defnyddio’r rhain yn y dyfodol) oherwydd mae fideo byw yn wedi’u heithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn archwilio’r safle i roi sylw i faterion hygyrchedd yn dilyn unrhyw newidiadau mawr i nodweddion y safle. Byddwn wedyn yn archwilio’r safle unwaith y flwyddyn i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 17 Mai 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 17 Mai 2021.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 12 Mai 2021. Cynhaliwyd y prawf gan CIVIC Computing Limited.
Cynhaliodd CIVIC sganiwr hygyrchedd awtomataidd (SortSite) ar draws holl dudalennau’r safle, i ganfod cydymffurfiaeth â WCAG 2.1 (AA). Dilynwyd hyn gan archwiliad hygyrchedd â llaw o sampl gynrychioliadol o fathau o dudalennau a thempledi (8 tudalen ynghyd â’r hafan) ac fe’i cynhaliwyd gan ddefnyddio parau cyffredin o borwyr a thechnoleg gynorthwyol yn unol â https://design-system.service.gov.uk/accessibility/. Cynhaliwyd yr archwiliad ar y bwrdd gwaith (gan ddefnyddio NVDA) ac iPhone ac iPad (gan ddefnyddio VoiceOver).
Cafodd y wefan ei phrofi eto ym mis Chwefror 2023. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn drwy brofion un-i-un gyda phobl ag anableddau amrywiol er mwyn canfod unrhyw broblemau yn y byd go iawn a brofir gan y defnyddwyr hyn. Cynhaliwyd y prawf gan CIVIC Computing Limited.
Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi gwybodaeth am y canlynol:
- Technoleg Gynorthwyol a oedd yn ofynnol gan gynnwys unrhyw estyniadau porwr y gellid eu defnyddio
- Gosodiadau neu ddewisiadau Porwr/System Weithredu, fel cynyddu maint rhagosodedig y ffont ac ati
- Rhesymau dros y dewisiadau hynny gan gynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol am eu profiad cyffredinol o ddefnyddio’r we
Wrth brofi’r wefan ei hun, y nod oedd gweld pa mor dda yr oedd yn gweithio yn erbyn y Pedair Egwyddor Hygyrchedd i weld a oedd:
- Canfyddadwy
- Gweithiadwy
- Dealladwy
- Cadarn
Roedd yr archwiliad hwn yn codi problemau gyda dyluniad y wefan, rhai ohonynt yn effeithio ar ddefnyddwyr anabl, ac eraill sydd â’r potensial i wneud taith y wefan yn anoddach i bob defnyddiwr, nid dim ond y rheini sydd ag anableddau. Mae’r rhain yn cael sylw fel rhan o raglen barhaus o welliannau ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Roedd yr archwiliad hwn yn codi problemau gyda dyluniad y wefan, rhai ohonynt yn effeithio ar ddefnyddwyr anabl, ac eraill sydd â’r potensial i wneud taith y wefan yn anoddach i bob defnyddiwr, nid dim ond y rheini sydd ag anableddau. Mae’r rhain yn cael sylw fel rhan o raglen barhaus o welliannau ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.